26/03/2011

Blog dosbarth Miss Metcalfe

Yn ddiweddar aeth ein dosbarth ati i gwblhau rhai herïau yn ymwneud a’n cymuned ni. Dyma’r herïau a wnaethom:

· Cornel Creu – creu pentref  allan o multilinks
· Gweithdy Gwybodaeth – hanes y cyfrifiad
· Creu a Darganfod – cyfradd curiad y galon
· Sgwad ‘Sgwennu - Ysgrifennu llythyr i gwyno.
 
                   Creu Pentref
Creu pentref allan o bedwar deg multilink. Roedd rhaid creu pentref cyfleus i bawb yn y gymuned. Roedd angen ystyried hen bobol a’r bobol ifanc a be fuasen nhw’n eu hoffi yn y pentref.      

                   Hanes y Cyfrifiad
Edrychon ni ar fywydau plant Oes Fictoria. Roedden ni’n edrych ar sut oedd y cyfrifiad wedi helpu’r Llywodraeth heddiw i wybod faint o blant sydd yn byw ym Mhrydain.

                   Cyfradd Curiad y galon
Roedd yn rhaid edrych ar sut roedd uchder ac adrenalin yn effeithio ar guriad y galon.

                Ysgrifennu Llythyr Cwyno
Roedd yn rhaid ysgrifennu llythyr at y cyngor i gwyno  am y penderfyniad i droi’r parc lleol yn bwll nofio. Roedd yn rhaid penderfynu os roedden ni o blaid neu yn erbyn.

----------------------------------------------------------------------------------
                              
Recently our class did different challenges to do with this term’s theme, Raising the Roof.. These were our challenges:



· Creative Corner- design a village.
· Information Workshop – history of the census.
· Create and discover- heart beat.
· Writing Squad- writing a letter of complaint

Creative Corner
We created a village using forty multilinks. We were given the challenge of cdesigning a suitable village for everyone in the community. We had to think about old people and the young people and what they would like.

History of the Census
We looked at children’s lives in the Victorian era. We looked at how the census today helps the government to know how many children there are in Britain.

Heart Beat
We had to find out how height and adrenalin affects the  human heart beat.

Writing a Letter of Complaint
We had to write a letter complaining about the Council’s decision to turn the local park into a swimming pool. We had to decide if we agreed or disagreed.

Daniel, Beca and Iwan

10/02/2011

Blog dosbarth Miss Pollard









Blog Blwyddyn 2 - cliciwch yma os am weld gwefan Ysgol Melin Gruffydd

Ein thema ar gyfer y tymor yma yw ‘Pell ac Agos’.

Rydym ond wythnosau mewn i’r flwyddyn newydd ac rydym wedi bod yn brysur iawn. Yr wythnos ddiwethaf cawsom y fraint i deithio i’r gofod gyda chriw Techniquest i ddysgu mwy am y planedau.

Ar ôl dychwelyd yn ôl o’r daith wefreiddiol yn y gofod, dechreuom feddwl am holl ryfeddodau'r ddaear…

… Sut cafodd y byd ei greu?
… Beth sy’n digwydd i’r haul yn y nos?
… Sut mae golau yn gweithio?
….Sut mae pobl yn Affrica yn byw?

Aethom ati i ymchwilio, darganfod a chyflwyno gwybodaeth am ryfeddodau’r byd. Edrychwch beth lwyddom i ddarganfod!

Sgwn i beth darganfyddwn dros yr wythnosau neaf? Mi fydd rhaid i chi aros am ein blog nesaf am yr ateb! Hwyl am y tro!

03/02/2011

Blog dosbarth Mrs Lloyd / Mrs Lloyd's class blog

Blog Dosbarth Mrs. Lloyd
 
Ein thema newydd yw Codi’r To ac wrth wneud map meddwl fe ofynnon ni’r cwestiwn : Sut  adeiladon nhw adeiladau tal iawn?  Gwylion ni fideo am yr adeiladau tal cyntaf a sut cafon nhw eu hadeiladu. Roedd e’n anhygoel pa mor ddewr oedd y gweithwyr yn cyd-bwyso ar ddarn o fetel cul heb harnes diogelwch!! Ein is-thema presennol yw Ar stepen ddrws ac rydym wedi bod yn cadw cofnod o ddefnydd adeiladau a chyfleusterau yr Eglwys Newydd ac Ystum Taf.
 
Roedd y siop ffrwythau newydd wedi dechrau heddiw ac roedd e’n llywddiant mawr.  Diolch am gefnogi y system newydd.
 
Ar ôl dechrau darllen y nofel War Horse trafodon ni greulondeb i anifeiliaid   Mynegon ni farn ar y defnydd o anifeiliaid yn y gweithlu ac os oeddent yn cael eu trin yn addas neu yn cael eu cam-drin.  Aethom ati wedyn i wneud gweithgareddau hwylus ac amrywiol ynglyn â’r pwnc e.e. creu poster, creu power point a perfformio hysbyseb radio.
 
Digwyddiad cyffrous arall yr wythnos hon oedd chwarae pêl-droed yn erbyn Ysgol Y Wern. Roedd llawer o fechgyn y dosbarth yn chwarae ac enillodd  tîm A Melin Gruffydd 8-1 ac ennillodd tîm B Melin Gruffydd 10-0.  Roedd hi’n gêm dda!!
 
Mrs. Lloyd’s Class Blog
 
Our new theme this term is Raising the roof and one of the ideas we came up with was discovering how skyscrapers are built.  We watched a video about the first skyscrapers and how they were constructed.  It was amazing to witness the bravery of the workers balancing on a thin beam without a safety-harness!! Our present sub-theme is On our doorstep.  We have been keeping track of which shops and other amenities in Whitchurch and Llandaf North our family have been using.
 
The new fruit shop started today and it was a huge success.  Thank you for supporting the new system.
 
After starting to read the novel War Horse by Michael Morpurgo we discussed the issue of cruelty to animals.  We gave our opinions on the use of anilmals in the workforce and if we thought they were being treated fairly or not.  We then  participated in various enjoyable activities. e.g. creating a poster, creating a power point and performing a radio commercial.
 
Another exciting event that occurred this week is that the school football team  played against  Ysgol Y Wern . Many of the boys in our class played and  the Melin Gruffydd A team won 8-1 and the Melin Gruffydd B team won 10-0.  It was an excellent game!!
 
                                                                                Gan/By Evan, Gethin, Tomos.                       

09/12/2010

Croeso / Welcome

Croeso i dudalen Blog disgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd.

Welcome to the pupils' new Blog page.